Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

WESP 26
Ymateb gan : Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Response from : Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn Ymchwiliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

Prif amcan a nod y Coleg yw cynyddu, datblygu ac ehangu darpariaeth Gymraeg mewn addysg uwch. Oddi ar ei sefydlu yn 2011, mae’r Coleg wedi gweithio gyda a thrwy’r prifysgolion yng Nghymru er mwyn sicrhau bod dewis helaeth a chynhwysfawr o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael i fyfyrwyr ar draws ystod eang o bynciau a disgyblaethau.  Drwy gynllunio strategol a buddsoddi gofalus mae’r ymdrechion hynny bellach yn dechrau dwyn ffrwyth ac mae fwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen bellach yn dewis astudio cyfran o’u rhaglenni gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, mae’r llwyddiant hwnnw i raddau helaeth yn ddibynnol ar fod gan y gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg seiliau cadarn.  Oni bai fod y gyfundrefn honno’n cynnig llwybr dilyniant di-dor trwy gyfrwng y Gymraeg o’r cyfnod sylfaen hyd at addysg ôl-16, bydd yn llawer anos darbwyllo myfyrwyr i astudio drwy’r Gymreag yn y brifysgol.  Er mwyn gweld cynnydd pellach mewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae’n hanfodol bwysig fod seiliau’r gyfundrefn yn ein hysgolion a’n colegau addysg bellach yn cael eu cryfhau ymhellach a bod y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn cael ei ddiwallu.

 

Mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) yn cynnig cyfle gwirioneddol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gynllunio a gweithredu’n strategol er mwyn mynd i’r afael â thargedau’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (SACC).

 

Pwrpas llunio’r cynlluniau hyn yw i ymateb i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg a chynllunio’n bwrpasol ar gyfer cynyddu’r cyfleoedd i ddisgyblion astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’n bwysig fod cysondeb yn y gwaith cynllunio er mwyn sicrhau bod y galw yn cael ei annerch mewn ffordd gadarnhaol ac uchelgeisiol ym mhob rhan o’r wlad, a bod cynlluniau pob Awdurdod Lleol yn cynnig gweledigaeth glir a mesuradwy ar gyfer gwireddu dyheadau Strategaeth Addysg Cyfwng Cymraeg y Llywodraeth.

 

Mae’r Coleg yn cydnabod ac yn croesawu’r gwaith a gyflawnwyd eisoes drwy’r cynlluniau hyn, ac yn hyderu y bydd yr Ymchwiliad yn sbarduno ymdrechion pellach i gryfhau’r cynlluniau.  Bydd yn bwysig sicrhau fod y cynlluniau yn cynnig gweledigaeth glir gyda chamau gweithredu pendant  ar gyfer:

 

              mesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg oddi fewn i’r sir a chynllunio’n strategol ar sail hynny i ddiwallu’r galw presennol;

              cynyddu’r capasiti a’r llefydd sydd ar gael i ddisgyblion i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol;

              sicrhau bod llwybrau dilyniant pendant a di-dor trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyd y continiwm addysg o’r sector cynradd hyd at y sector ôl-16;

              hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a manteision addysg dwyieithog. Bydd modd i’r Awdurdodau Lleol fanteisio ar gynlluniau ehangach y Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo.

 

Bydd Adran Addysg y Llywodraeth yn awyddus i sicrhau bod cysondeb yng nghynlluniau’r Awdurdodau Lleol a’u bod yn cael eu monitro’n bwrpasol yn erbyn eu targedau ac yn erbyn amcanion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

 

Fel corff sy’n cyfrannu at wireddu amcanion a dyheadau Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth ac yn awyddus i weld y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn llwyddo, dymunwn bob llwyddiant i’r Ymchwiliad. Byddwn yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol a fyddai o ddefnydd cyd-destunol i’r Ymchwiliad.

 

Yn gywir,

 

    

 

Dr Ioan Matthews

Prif Weithredwr